Amos 6

Dinistrio Israel

1Gwae chi sydd mor gyfforddus yn Seion,
ac yn teimlo mor saff ar fryniau Samaria!
Chi bobl bwysig y genedl sbesial ma –
ie, chi mae pobl Israel yn troi atyn nhw am arweiniad.
2Dych chi'n dweud wrthyn nhw,
“Ewch draw i ddinas Calne, i weld sut mae pethau yno!
Ewch yn eich blaen wedyn i Chamath fawr,
ac i lawr i Gath
6:2 Calne … Chamath … Gath Dinasoedd wedi eu concro gan yr Asyriaid: Calne yn 738 CC, Chamath yn 720, a Gath yn 711.
y Philistiaid.
Ydy pethau'n well arnyn nhw nag ar y ddwy wlad yma?
Oes ganddyn nhw fwy o dir na chi?”
3Dych chi'n gwrthod derbyn fod dydd drwg yn dod.
Dych chi'n gofyn am gyfnod o drais!
4Druan ohonoch chi, sy'n diogi ar eich soffas ifori moethus.
Yn gorweddian ar glustogau cyfforddus,
ac yn mwynhau gwledda ar gig oen
a'r cig eidion gorau.
5Yn mwmian canu i gyfeiliant y nabl –
a meddwl eich bod chi'n gerddorion gwych fel y Brenin Dafydd!
6Dych chi'n yfed gwin wrth y galwyni
ac yn pampro eich cyrff gyda'r olew gorau!
Ond dych chi'n poeni dim fod dinistr
yn dod ar bobl Joseff!
7Felly, chi fydd y rhai cyntaf i gael eich caethgludo,
a hynny'n fuan iawn!
Bydd y gwledda a'r gorweddian yn dod i ben!
8Mae fy Meistr, yr Arglwydd, yn tyngu iddo'i hun:
“Dw i'n casáu balchder gwlad Jacob,
ac yn ffieiddio ei phlastai.
Bydda i'n cyhoeddi y bydd dinas Samaria a'i phobl
yn cael eu rhoi yn llaw'r gelyn.”

—yr Arglwydd sy'n dweud hyn, y Duw holl-bwerus.

9Os bydd deg o bobl yn dal yn fyw mewn tŷ, byddan nhw'n marw. 10Yna bydd perthynas yn dod i gasglu'r cyrff o'r tŷ – gyda'r bwriad o'u llosgi. A bydd yn galw ar rywun sy'n cuddio yng nghefn y tŷ, “Oes unrhyw un arall yn fyw ond ti?” ac yn cael yr ateb, “Na, neb.” Yna bydd yn dweud, “Ust! paid hyd yn oed â dweud enw'r Arglwydd”.

11Felly, mae'r Arglwydd yn rhoi'r gorchymyn:
“Mae'r tai mawr crand i gael eu chwalu'n ulw,
a'r tai cyffredin hefyd, yn ddarnau mân.”
12Ydy ceffylau'n gallu carlamu dros greigiau mawrion?
Ydy'n bosib ei aredig hefo ychen?
Ac eto dych chi wedi troi cyfiawnder yn wenwyn marwol
ac wedi gwneud yr hyn sy'n iawn yn beth chwerw.
13Dych chi mor falch eich bod chi wedi concro tref Lo-debâr
6:13 Lo-debâr Tref yn Gilead, yr ochr draw i Afon Iorddonen. Ond mae yma eironi, gan fod yr enw yn swnio'n debyg i'r gair Hebraeg am "ddim byd".
,
a meddech chi wedyn, “Dŷn ni wedi dal Carnaïm!
6:13 Carnaïm Tref fach arall oedd yr ochr draw i Afon Iorddonen. Ystyr yr enw ydy "cyrn", sef arwydd o gryfder.

Roedden ni'n rhy gryf iddyn nhw!”
14Ond gwylia di, wlad Israel,

—yr Arglwydd sy'n dweud hyn, y Duw holl-bwerus.
Dw i'n codi cenedl i ymladd yn dy erbyn di.
Bydd yn dy ormesu di o Fwlch Chamath yn y gogledd
i Wadi'r Araba
6:14 o Fwlch Chamath … i Wadi'r Araba Ffiniau Israel yn y gogledd a'r de.
lawr yn y de!
Copyright information for CYM